Telerau ac amodau

Gwasanaethau Cofrestru

Telerau ac amodau ar gyfer gwasanaethau cofrestru Sir Ddinbych.

Mae 'Ni' neu 'Ein' yn golygu Cyngor Sir Ddinbych ("y Cyngor")

'Chi' neu 'Eich' – yr unigolyn/unigolion a enwir ar y ffurflen bwcio seremoni.

Derbynnir eich trefniant bwcio seremoni priodi neu bartneriaeth sifil ar yr amod:

  • Nad oes unrhyw reswm cyfreithiol i rwystro'r briodas neu'r bartneriaeth sifil a bod y Rhaghysbysiadau Cyfreithiol angenrheidiol yn cael eu cwblhau yn ôl y gofyn.
  • Bod y Cofrestrydd Cyffredinol yn derbynl unrhyw bapurau ysgaru/diddymu priodas tramor ble bo hynny’n berthnasol.

Ffioedd

Gweld ein ffioedd cofrestru cyfredol

Bwcio Dros dro a Blaendal

Bydd talu blaendal yn cadw lle yn ein dyddiadur ar gyfer seremoni mewn Swyddfa Gofrestru neu i Gofrestrydd fynychu lleoliad priodi trwyddedig.Ni fydd modd ad-dalu'r ffi cofrestru dros dro a bydd y swm yn cael ei dynnu o'r ffi derfynol sy'n ddyledus..

Er mwyn sicrhau dyddiad ac amser sy’n fwy na 12 mis ymlaen llaw, mae ffi ychwanegol yn daladwy na fydd yn cael ei had-dalu ac na fydd yn cael ei thynnu o'r swm terfynol sy'n ddyledus.

Bydd cadarnhad o’ch Archeb Dros Dro yn cael ei anfon i’ch cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn symudol.

Mae ffioedd hysbysu yn daladwy pan fyddwch yn rhoi eich hysbysiad cyfreithiol o’ch bwriad i briodi neu lunio partneriaeth sifil; nid yw’r ffioedd hyn yn ad-daladwy.

Ffioedd seremoni a ffioedd tystysgrif

Bydd gweddill ffi'r seremoni’n ddyledus dim hwyrach a dwy (2) wythnos cyn y seremoni. Nodwch na fyddwn yn anfon nodyn atgoffa. Os nad ydych yn talu erbyn y dyddiad dyledus bydd y seremoni’n cael ei chanslo gennym ni a byddwch yn colli unrhyw arian a dalwyd.

Tystysgrifau Ychwanegol

Os ydych wedi gwneud cais am, ac wedi talu am dystysgrifau ychwanegol, dylech fod yn ymwybodol y bydd POB tystysgrif yn cael ei phostio (drwy’r post 2il ddosbarth). Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am dystysgrifau sy’n mynd ar goll yn y post. Os nad ydych yn derbyn y tystysgrifau, bydd yn rhaid i chi wneud cais a taliad arall. Mae’n bosib I chi gasglu’r tystysgrif(au) o’r Swyddfa Gofrestru.

Llofnodi’r Atodlen

Yn ystod y seremoni gofynnir i chi lofnodi eich cofnod yn y Atodlen. Dylech wirio’n ofalus fod yr holl wybodaeth yn gywir cyn llofnodi.

Bydd yn rhaid cyfeirio unrhyw gywiriadau y gofynnir amdanynt ar ôl i'r Atodlen gael ei llofnodi i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol i'w hystyried, a bydd yn rhaid i chi dalu ffi orfodol, statudol o £90.

Canslo

Y pâr yn canslo

Dim ond gan un o’r partïon a oedd i fod yn rhan o’r seremoni y byddwn yn derbyn cais i ganslo, ni fyddwn yn derbyn hyn gan unrhyw barti arall. Os bydd yn rhaid i chi ganslo eich seremoni mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni yn ysgrifenedig, drwy e-bost o’r cyfeiriad e-bost a roddwyd ar adeg bwcio, neu drwy lythyr.

  • Cedwir y blaendal os mai CHI sy’n canslo eich seremoni.
  • Ni wneir unrhyw ad-daliad os caiff seremoni ei chanslo o fewn dwy (2) wythnos i ddyddiad y seremoni.
  • Bydd methiant i fynychu seremoni a drefnwyd ar y dyddiad neu’r adeg benodedig yn cael ei drin fel canslo a bydd yr holl arian a dalwyd yn cael ei fforffedu.

Canslo gan Gyngor Sir Ddinbych

Gall y cyngor ganslo'r trefniant os nad ydych yn rhoi hysbysiad cyfreithiol i'r Cyngor o'ch bwriad i briodi neu ffurfio partneriaeth sifil. Bydd y Cyngor yn cadw’r blaendal.

Cyrraedd yn Hwyr

Yr adeg a drefnwyd ar gyfer y seremoni yw’r adeg pan fydd y seremoni’n cychwyn.

Nodwch nad oes unrhyw gynlluniau wrth gefn yn eu lle os yw’r seremoni’n cael ei hoedi oherwydd bod y pâr sydd i briodi neu unrhyw rai o’u gwesteion yn hwyr, nac am unrhyw reswm arall.

Er mwyn cyflawni ei ymrwymiad i gynnal seremonïau eraill, bydd yn rhaid i'r cofrestrydd adael y lleoliad er mwyn cyrraedd ei seremoni nesaf erbyn yr amser a gytunwyd.

Os yw’n bosib i’r Cofrestrydd aros i gynnal eich seremoni, yna bydd anfoneb yn cael ei hanfon atoch am yr amser ychwanegol bu'n rhaid i'r Cofrestrydd aros.

Os bydd seremoni’n cael ei chanslo oherwydd bod rhywun yn hwyr yn cyrraedd, ni fydd ad-daliad yn cael ei wneud.

Tystion

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau fod gennych ddau dyst credadwy yn y seremoni. Mae’n rhaid i dystion sy'n llofnodi'r gofrestr fod yn 16 oed neu drosodd ac yn gallu siarad a deall Saesneg.

Seremonïau mewn strwythurau y gellir eu symud a seremonïau y tu allan

  • rhaid cynnal seremoniau o fewn ffin y fangre cymeradwy adeiledig
  • rhaid cytuno seremoniau awyr agored gyda ni yn ysgrifenedig
  • mae’n rhaid i'r lleoliad trwyddedig gytuno a rhaid hefyd bod ag ystafell seremoni arall ar gael at eich defnydd rhag ofn y bydd yn rhaid cynnal y seremoni mewn ystafell dan do
  • ni fydd y seremoni'n cael ei gynnal y tu allan os yw'r tywydd yn anffafriol. Bydd y penderfyniad terfynol yn cael ei wneud gan y Cofrestrydd ar y diwrnod

Enwi ac adnewyddu addunedau

Bydd eich cais yn cael ei dderbyn ar yr amod y cyflwynir y dogfennau canlynol fel sy’n briodol:

  • Tystysgrif geni’r sawl sy’n cael eu henwi; a/neu
  • Tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil parau sy’n adnewyddu eu haddunedau.

Nodwch na fydd y seremonïau hyn yn rhoi unrhyw statws na hawliau cyfreithiol.

Anifeiliaid

Ni fyddwn yn caniatáu i anifeiliaid o unrhyw fath (ar wahân i gwn y deillion neu anifeiliaid cynorthwyol) fod yn bresennol mewn seremonïau yn ein swyddfeydd cofrestru ni ein hunain.

Os bydd lleoliad cymeradwy’n caniatáu anifeiliaid yn y seremoni yn y lleoliad hwnnw sy'n llwyr gyfrifol am iechyd a diogelwch gwesteion ac unrhyw faterion cadw tŷ sy'n codi yn sgil hynny. Mae’n rhaid i ni gael gwybod am y trefniadau hyn cyn diwrnod y seremoni.

Ffotograffau

Fel arfer bydd rhywle y tu mewn a/neu'r tu allan i'r lleoliad ar gyfer ffotograffau. Caniateir i’r ffotograffydd swyddogol dynnu nifer cyfyngedig o luniau yn ystod y seremoni drwy drefniant ymlaen llaw gyda'r cofrestrydd sy’n cynnal y seremoni.

Ni ddylid caniatáu i ffotograffwyr oedi cychwyn y seremoni yn ddiangen.

Ni chaniateir tynnu llun na ffilmio'r gofrestr/atodlen oherwydd cyfyngiadau diogelu data.

Mae'r cofrestrydd yn neilltuo'r hawl i stopio unrhyw luniau/fideo os yw'n credu eu bod yn tarfu'n ddiangen ar, neu'n torri ar draws y seremoni neu gofrestriad y briodas/partneriaeth sifil.

Ymddygiad

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ymrwymedig i gynnal amgylchedd gwaith diogel ac iach i’w holl staff. Mae’r Cyngor yn disgwyl i’r cyhoedd drin gweithwyr gyda chwrteisi a pharch ac ni fydd yn goddef unrhyw un sy’n ymddwyn yn fygythiol tuag at ei staff.

Atebolrwydd

Ni allwn dderbyn unrhyw atebolrwydd dros:

  • Unrhyw seremoni y mae’n rhaid ei chanslo o ganlyniad i ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth ni
  • Unrhyw oedi neu golled a achosir oherwydd bod gwesteion yn cyrraedd yn hwyr neu ddim yn cyrraedd
  • Unrhyw golled i chi, ariannol neu fel arall, a achosir oherwydd cais gennych chi neu eich cynrychiolydd i oedi’r seremoni.
  • Methiant unrhyw system gerddoriaeth neu ddyfais a ddarparwyd gan y lleoliad, gennych chi neu gan drydydd parti.
  • Camgymeriadau neu fethiannau a achoswyd gan leoliad nad yw’n eiddo i Gyngor Sir Ddinbych. Rhoddir cymeradwyaeth i’r lleoliad dim ond mewn perthynas a darpariaeth seremonïau
  • Unrhyw golled neu iawndal cysylltiedig â'r angen i stopio seremoni rhag mynd yn ei blaen oherwydd:
    • y byddai’n ddi-rym pe bai’n cael ei chynnal
    • y byddai trosedd yn cael ei chyflawni o dan y Deddfau Priodas neu Bartneriaethau Sifil, neu
    • y bernir nad yw’r naill barti neu’r llall yn ffit i barhau oherwydd salwch neu oherwydd eu bod wedi yfed alcohol neu wedi cymryd sylweddau eraill.

Ni fyddwn yn derbyn atebolrwydd am unrhyw gostau neu golledion sy’n digwydd o ganlyniad i orfod newid y lleoliad neu amser y seremoni.

Rydym yn neilltuo’r hawl i wneud y penderfyniad terfynol ar unrhyw eiriad a ddefnyddir wrth gynnal eich seremoni ac ni fyddwn yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw beth sy'n cael ei adael allan.

Nodwch os gwelwch yn dda, os ar ôl archebu eich seremoni rydych yn dymuno newid eich lleoliad, dyddiad neu amser, bydd hyn yn cael ei drin fel seremoni wedi’i chanslo, gan arwain at eich blaendal yn cael ei fforffedu. Bydd angen i chi wneud archeb newydd ynghyd a blaendaliadau/ffioedd archebu. Ni fydd yn bosibl trosglwyddo arian a dalwyd eisoes ar gyfer seremoni sydd bellach wedi'i chanslo.

Nodwch os gwelwch yn dda fod yr holl ffioedd yn cynyddu a’u cymhwyso bob mis Ebrill

Ein manylion cyswllt yw ceremonies@denbighshire.gov.uk

Gwasanaeth Llyfrgell

Gwasanaeth Llyfrgell

Telerau ac Amodau Gwasanaeth Llyfrgell Sir Ddinbych

Trwy ymaelodi â’r llyfrgell, rydych chi’n cadarnhau eich bod wedi darllen a derbyn telerau ac amodau'r aelodaeth ac yn cytuno i gadw at y telerau hyn ar gyfer hyd y cytundeb.

Amodau cyffredinol yr aelodaeth

  • Mae aelodaeth ar-lein yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio ein casgliadau digidol megis eLyfrau, llyfrau llafar a lawrlwythiadau. Pan fyddwch chi’n ymuno ar-lein cewch rif adnabod llyfrgell a rhif pin o’ch dewis chi, ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
  • Mae aelodaeth llyfrgell lawn yn rhoi’r hawl i chi ddefnyddio’r holl wasanaethau llyfrgell a ddarperir gan Lyfrgelloedd Sir Ddinbych a’n sefydliadau partner. Pan ymunwch chi fel aelod cyflawn, byddwch yn derbyn cerdyn aelodaeth llyfrgell a rhif pin, ar gyfer eich defnydd personol eich hun.
  • Mae gofyn i aelodau’r llyfrgell gyflwyno eu cerdyn aelodaeth llyfrgell wrth fenthyg eitemau a defnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell.
  • Fel aelod o’r llyfrgell rydych chi’n gyfrifol am yr holl eitemau a fenthycir ar eich cerdyn llyfrgell, gan gynnwys unrhyw eitemau coll/wedi’u difrodi y gellid bod angen talu amdanynt, ac am dalu unrhyw ffioedd sy’n cronni ar eich cyfrif llyfrgell.
  • Os yw’r cerdyn ar goll rhaid i chi hysbysu’r llyfrgell.
  • Chi sy’n gyfrifol am ein hysbysu ni am unrhyw newidiadau i’ch manylion personol, er enghraifft newid cyfeiriad.
  • Gallwch derfyn eich cyfrif ar unrhyw adeg.
  • Pe dymunech ganslo eich aelodaeth llyfrgell, dylech ddychwelyd yr holl eitemau a fenthycwyd a dychwelyd eich cerdyn aelodaeth ar gyfer ei ddileu. Os oes unrhyw ffioedd heb eu casglu ar eich cyfrif llyfrgell disgwylir i chi dalu amdanynt.

Defnydd o gyfrifiaduron y llyfrgell a’r rhyngrwyd, argraffu a llungopïo

  • I ddefnyddio ein cyfrifiaduron cyhoeddus dylech fod yn aelod llawn o'r llyfrgell a dod â’ch cerdyn llyfrgell a’ch rhif pin gyda chi bob tro. Ni chaniateir trosglwyddo mynediad i’r we drwy aelodaeth Llyfrgell  i unrhyw berson arall.
  • Os ydych chi o dan 14 oed fe gewch chi ffurflen ganiatâd i ddefnyddio’r we, er mwyn i’ch rhiant neu ofalwr ei arwyddo.
  • Ni all plant o dan 11 oed ddefnyddio cyfrifiaduron y llyfrgell oni bai fydd rhiant neu ofalwr gyda nhw.
  • Cyfrifoldeb y rhiant neu ofalwr yw monitro a rheoli defnydd o’r rhyngrwyd a chyfrifiaduron y llyfrgell y plant yn eu gofal. Os ydych chi’n pryderu am y cynnwys y gall eich plentyn ei weld wrth ddefnyddio cyfrifiadur y llyfrgell, gofynnwn i rieni/gofalwyr ddod gyda’u plant ar eu hymweliad i’r llyfrgell.
  • Mae mynediad i’r we yn cael ei hidlo; ac mae pob mynediad yn cael ei gofnodi. Ni fydd cynnwys penodol unrhyw weithrediad yn cael ei fonitro oni bai bod amheuaeth o ddefnydd amhriodol.
  • Gall unrhyw achos o dorri’r Polisi Defnydd Derbyniol yn anghyfreithlon gael ei gyfeirio i gymryd camau cyfreithiol neu at yr heddlu.
  • Rhaid i chi gytuno i gadw at ein Polisi Defnydd Derbyniol er mwyn dechrau eich sesiwn ar y cyfrifiadur.

Polisi Defnydd Derbyniol

Nodwch taw dim ond un person ar y tro caiff ddefnyddio cyfrifiadur a bod eich defnydd yn cael ei fonitro yn gyson gan y cyngor.

Peidiwch â cheisio ail-osod, hacio na niweidio offer cyfrifiadurol.

Ni chewch ddefnyddio’r Rhyngrwyd i gael mynediad heb awdurdod i systemau neu rwydweithiau cyfrifiadurol.

Peidiwch â cheisio cyrchu, creu, lawrlwytho, argraffu na throsglwyddo deunydd sy'n anghyfreithlon, yn bornograffig, yn sarhaus, yn hiliol, yn ddifenwol neu'n debygol o achosi tramgwydd neu drallod diangen.

Byddwch yn ystyriol o ddefnyddwyr eraill y Llyfrgell pan fyddwch yn defnyddio’r cyfrifiadur os gwelwch yn dda.

Diogelu Data a chadw data personol

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn parchu’ch hawl i breifatrwydd ac wedi’i ymrwymo i'w ddiogelu yn unol â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data.

Mae’r wybodaeth rydych chi’n ei rhoi i ni wrth ymuno â’r llyfrgell yn angenrheidiol ar gyfer cyflawni’r cytundeb rhyngom ni. Gall methu â darparu'r wybodaeth hon arwain at ddileu ein cytundeb.

Mae Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Llyfrgell yn egluro sut rydym yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch pan fyddwch yn defnyddio ein gwasanaethau.

Ni fyddwn yn cadw’ch gwybodaeth yn hirach na’r angen, oni fydd hynny’n ofynnol dan y gyfraith.

Dyma’r atodlen sy’n nodi am faint o amser rydym ni’n cadw gwahanol fathau o wybodaeth:

Rheoli Cyfrif Defnyddiwr

Gwybodaeth sydd gennym: data personol a gedwir ar gyfrif llyfrgell ar gronfa ddata System Rheoli’r Llyfrgell. (Os fydd cyfrif yn segur am gyfnod o 24 mis, byddwn yn cau a dileu’r cyfrif).

Hyd: Cytundeb diwedd aelodaeth + 1Fl.


Gwybodaeth sydd gennym: defnyddwyr gydag eitemau / ffioedd heb eu talu ar eu cyfrif ar ddiwedd y cytundeb.

Hyd: Cytundeb diwedd aelodaeth + 6Fl.


Gwybodaeth sydd gennym: hanes benthyg defnyddiwr llyfrgell.

Duration: Cytundeb diwedd aelodaeth + 1Fl.


Defnydd cyfrifiadur defnyddiwr llyfrgell

Gwybodaeth sydd gennym: data personol a gedwir ar gyfrif llyfrgell ar gronfa ddata System Rheoli’r Llyfrgell.

Hyd: cytundeb diwedd aelodaeth + 1Fl.


Gwybodaeth sydd gennym: data sesiynnau a gedwir ar feddalwedd Rheoli Cyfrifiaduron Personol.

Hyd: 3 Fl yna gwneir yn anhysbys am 2Fl yna ei ddileu.


Gwybodaeth sydd gennym: hanes rhyngrwyd defnyddiwr llyfrgell. Data anhysbys a gedwir am gyfnod dros dro er mwyn helpu i ddatgelu camddefnydd.

Hyd: 1 mis.


Gwybodaeth sydd gennym: tasgau argraffu yn y modiwl argraffu.

Hyd: 1 tasg blaenorol ar yr un cyfrifiadur.


Dileu gwybodaeth (hawl i gael eich anghofio)

Dileu’r data os gwneir cais, os nag yw’n angenrheidiol i’r gwasanaeth neu’n angen cyfreithiol i gadw’r data.

Gwybodaeth sydd gennym: data sesiynnau a gedwir ar feddalwedd Rheoli Cyfrifiaduron Personol.

Hyd: Dileir ar ôl 90 diwrnod.


Monitro defnydd a thorri termau

Gwybodaeth sydd gennym: defnyddwyr sydd wedi eu gwahardd rhag defnyddio gwasanaethau yn unol â’n polisi gwahardd.

Hyd: Cytundeb diwedd aelodaeth + 6Fl.

Bydd data sydd ynghlwm â gwaharddiad penagored yn cael ei gadw yn unol ag unrhyw ofyniad cyfreithiol.


Gweithgareddau Llyfrgell

Gwybodaeth sydd gennym: os ydych chi wedi cofrestru i fynychu gweithgaredd a arweinir gan y llyfrgell yn rheolaidd e.e. Grŵp Darllen, Amser Rhigwm Dechrau Das.

Hyd: blwyddyn presennol +1Fl neu Cytundeb diwedd aelodaeth + 6Fl.


Gall methu â chydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn arwain at wahardd neu ddileu eich aelodaeth llyfrgell.

Mae’r telerau ac amodau hyn wedi eu creu o dan Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964 .

Gwefan

Gwefan

Mae Cyngor Sir Ddinbych yn gwneud pob ymdrech i sicrhau cywirdeb a dibynadwyaeth y wefan hon. Fodd bynnag, nid yw'n honni dim am gywirdeb, dibynadwyaeth, cyfanrwydd, neu addasrwydd y wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau a graffigwaith perthnasol sy'n gynwysiedig yn y wefan hon ar gyfer unrhyw bwrpas.

Ni fydd Cyngor Sir Ddinbych, ei weithwyr cyflog, ei gyflenwyr na chwmnïau eraill sydd â wnelo a chreu a chyflwyno'r wefan hon, yn gyfrifol am unrhyw niwed uniongyrchol, anuniongyrchol, achlysurol, arbennig nac ôl-ddilynol, colled nac anhwylustod achoswir wrth ddibynnu ar gynnwys y wefan hon, neu'n codi o ddefnyddio'r wefan hon.

Mae mynediad i, a defnydd o'r wefan hon, a ddarperir gan Gyngor Sir Ddinbych yn ddarostyngedig i'r amodau a thelerau canlynol:

  1. Mae eich defnydd o'r wefan hon yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau hyn, a ddaw i rym o'r dyddiad cyntaf y defnyddiwch y wefan. Mae gan Gyngor Sir Ddinbych yr hawl i newid yr amodau a thelerau hyn ar unrhyw adeg, drwy osod newidiadau arlein. Mae parhau i ddefnyddio'r wefan hon ar ôl i newidiadau gael eu gwneud, yn golygu eich bod yn derbyn yr amodau a thelerau diwygiedig.
  2. Ar gyfer eich defnydd personol anfasnachol eich hun mae'r wefan hon. Ni chaniateir copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, llwytho i lawr, gosod, darlledu na throsglwyddo deunyddiau mewn unrhyw fodd, ac eithrio ar gyfer eich defnydd personol, anfasnachol eich hun gartref. Bydd angen caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.
  3. Rydych yn cytuno i ddefnyddio'r wefan hon ar gyfer dibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn modd nad yw'n tresmasu ar hawliau, neu'n cyfyngu neu'n gwahardd defnydd a mwyniant o'r wefan hon gan drydydd parti, neu'n achosi niwsans, anghyfleustra, neu bryder diangen i drydydd parti.
  4. Mae'r cyfyngiad neu'r gwaharddiad hwn yn cynnwys (heb derfynau), ymddygiad anghyfreithlon, difenwol, dilornus neu'r gallu i boeni neu achosi gofid, anghyfleustra, niwsans, neu fod yn fygythiad i unrhyw unigolyn, a throsglwyddo cynnwys anweddus, bygythiol, annymunol, neu amharu ar rediad arferol sgyrsiau a fewn y wefan.
  5. Mae'r wefan hon yn cynnwys linciau i wefannau eraill nad ydynt o reidrwydd yn cael eu rheoli gan y Cyngor. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn, ac nid yw'n derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw beth a allai godi wrth ddefnyddio gwefannau fel hyn.
  6. Mae'r Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a'r deunyddiau ar y wefan hon yn briodol ac yn fanwl gywir, ond nid yw'n derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros wallau neu hepgoriadau ac nid yw'n gwarantu y bydd defnydd o'r wefan yn ddi-dor. Mae'r Cyngor yn darparu deunyddiau a gyhoeddir ar ei wefan ar sail ei fod yn gwadu'r holl warantau ynglyn â deunyddiau felly, p'un ai yr eglurir hynny neu yr awgrymir hynny. Nid yw'r Cyngor, ei weithwyr cyflog, ei gyflenwyr na darparwyr gwreiddiol y deunydd, yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros golled busnes, refeniw, nac elw uniongyrchol, anuniongyrchol, damweiniol, nac ôl-ddilynol, na dros niwed arbennig yn codi o gyhoeddi'r deunydd ar y wefan hon, neu o ddefnyddio'r wefan hon.
  7. Rydych chi'n cydnabod bod holl hawliau eiddo deallusol, yn cynnwys hawlfraint a hawliau cronfa ddata ar wefan y Cyngor, a'i chynnwys, yn perthyn i, neu wedi cael ei drwyddedu i'r Cyngor, sydd â chaniatâd dan ddeddf berthnasol i'w defnyddio fel arall.
  8. Mae gan y Cyngor yr hawl i olygu, gwrthod gosod neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir neu a osodir ar y wefan hon. Nid yw'r Cyngor yn gyfrifol am, nac yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw ddeunydd a osodir ar y wefan ar wahân i ddeunydd y Cyngor. Mae unrhyw farn, cyngor, gosodiad, cynnig neu wybodaeth arall a fynegir neu sydd ar gael gan drydydd parti ar wefan y Cyngor, yn perthyn i'r trydydd parti hwnnw. Nid yw'r Cyngor yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw ddeunydd trydydd parti tebyg.
  9. Mae'r amodau a thelerau hyn yn cael eu rheoli gan ddeddfau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod a gwyd o'r amodau a thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdod Llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.
  10. Os dewch o hyd i unrhyw beth ar y wefan hon sy'n peri pryder i chi, gadewch i ni wybod os gwelwch yn dda.
  11. Os ydych yn anfodlon ag unrhyw ran o'r wefan hon, neu ag unrhyw un o'r amodau a thelerau hyn , rhowch y gorau i ddefnyddio'r wefan hon yn ddiymdroi os gwelwch yn dda.
  12. Os penderfynir bod unrhyw un o'r amodau a'r telerau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys, neu, fel arall, yn anghymelladwy, yna, yn ôl y graddau y bydd yr amodau neu'r telerau'n anghyfreithlon, yn annilys, neu'n anghymelladwy, caiff ei dorri allan a'i ddileu o'r cymal hwn, a bydd yr amodau a thelerau sy'n weddill yn sefyll, yn dal mewn grym ac yn parhau'n orfodol a chymelladwy.
Trwyddedau parcio

Trwyddedau parcio

Amodau a thelerau trwyddedau parcio ar gyfer y traeth

Yn y ddogfen hon rydym ni wedi defnyddio’r term ‘trwydded’. Bydd y term yn cyfeirio at drwyddedau papur yn ogystal ag e-drwyddedau (i’w gweithredu yn ystod 2024).

Mae’r amodau a’r telerau hyn yn cynnwys trwyddedau’r gyfradd lawn a’r gyfradd ratach.

  1. Mae trwyddedau ar gael i drigolion y sir ac i unigolion eraill fel ei gilydd.
  2. Ni fydd deiliaid trwyddedau yn sicr o gael lle parcio yn ôl y galw, ond byddant yn cael hawl i barcio am ddim (yn amodol ar argaeledd lle) yn unrhyw un o’r meysydd parcio a restrir isod:
  3. Pan fydd e-drwydded barcio wedi ei rhoi byddant ond yn cael eu rhoi ar gyfer cerbyd penodol ond bydd modd i ddeiliaid trwyddedau’r gyfradd lawn wneud cais am drwydded ar gyfer cerbyd arall yn rhad ac am ddim trwy gysylltu â’r Cyngor. Nid yw’r cynnig hwn ar gael i ddeiliaid trwyddedau rhatach.
  4. Os yw rhywun yn newid cerbyd yna bydd trwydded newydd yn cael ei chyhoeddi yn rhad ac am ddim. Bydd yn rhaid gwneud cais i’r Cyngor am hyn a bydd yn rhaid dychwelyd y disg papur (os dosbarthwyd un).
  5. Os rhoddir trwydded bapur yna mae’n rhaid ei harddangos yn amlwg ar sgrin wynt y cerbyd.
  6. Mae’n rhaid i gerbydau fod ag MOT, yn ddiogel i fod ar y ffordd ac wedi’u trethu a’u hyswirio ar gyfer cyfnod y drwydded. Bydd methiant i gydymffurfio â hyn yn arwain at ddirymu eich trwydded.
  7. Gadewir y cerbydau ar fenter y perchennog. Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, anaf, difrod i unigolion, cerbydau, ategolion nac eiddo, oni bai bod hynny wedi’i achosi gan esgeulustod, diffygdalu bwriadol neu dorri dyletswydd y Cyngor.
  8. Rhaid i gerbydau allu defnyddio un man parcio’n unig.
  9. Caiff y drwydded ei chyhoeddi yn amodol ar y rheolau a’r rheoliadau sydd ar waith yn y maes parcio (gwelwch yr arwyddion yn y maes parcio) ac fel y nodir gan Gyngor Sir Ddinbych a gellir ei diddymu gan y Cyngor os bydd y rheolau neu’r rheoliadau yn cael eu torri.

Trwydded newydd

Os yw trwydded bapur wedi mynd ar goll yna gellir cael un newydd am £5. Bydd yn rhaid gwneud cais i’r Cyngor am un newydd.

Os oes gan gwsmer drwydded ‘unrhyw gerbyd’ ni fydd y ffi o £5 am drwydded newydd yn berthnasol – bydd yn rhaid i’r cwsmer dalu’r pris llawn eto.


Amodau a thelerau trwyddedau parcio arhosiad hir

Yn y ddogfen hon rydym ni wedi defnyddio’r term ‘trwydded’. Bydd y term yn cyfeirio at drwyddedau papur yn ogystal ag e-drwyddedau (i’w gweithredu yn ystod 2024).

Mae’r amodau a’r telerau hyn yn cynnwys trwyddedau’r gyfradd lawn a’r gyfradd ratach.

  1. Mae trwyddedau ar gael i drigolion y sir ac i unigolion eraill fel ei gilydd.
  2. Ni fydd deiliaid trwyddedau yn sicr o gael lle parcio yn ôl y galw, ond byddant yn cael hawl i barcio am ddim (yn amodol ar argaeledd lle) yn unrhyw un o’r meysydd parcio a restrir isod:

    Corwen

    Maes parcio Lôn Las

    Dinbych

    Llanelwy

    Llanelwy: Lawnt Fowlio

    Llangollen

    Prestatyn

    Rhuddlan

    Rhuddlan: Stryd y Senedd

    Rhuthun

    Y Rhyl

  3. Pan fydd e-drwydded barcio wedi ei rhoi byddant ond yn cael eu rhoi ar gyfer cerbyd penodol ond bydd modd i ddeiliaid trwyddedau’r gyfradd lawn wneud cais am drwydded ar gyfer cerbyd arall yn rhad ac am ddim trwy gysylltu â’r Cyngor. Nid yw’r cynnig hwn ar gael i ddeiliaid trwyddedau rhatach.
  4. Os yw rhywun yn newid cerbyd yna bydd trwydded newydd yn cael ei chyhoeddi yn rhad ac am ddim. Bydd yn rhaid gwneud cais i’r Cyngor am hyn a bydd yn rhaid dychwelyd y disg papur (os dosbarthwyd un).
  5. Os rhoddir trwydded bapur yna mae’n rhaid ei harddangos yn amlwg ar sgrin wynt y cerbyd.
  6. Mae’n rhaid i gerbydau fod ag MOT, yn ddiogel i fod ar y ffordd ac wedi’u trethu a’u hyswirio ar gyfer cyfnod y drwydded. Bydd methiant i gydymffurfio â hyn yn arwain at ddirymu eich trwydded.
  7. Gadewir y cerbydau ar fenter y perchennog. Nid yw’r Cyngor yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw golled, anaf, difrod i unigolion, cerbydau, ategolion nac eiddo, oni bai bod hynny wedi’i achosi gan esgeulustod, diffygdalu bwriadol neu dorri dyletswydd y Cyngor.
  8. Rhaid i gerbydau allu defnyddio un man parcio’n unig.
  9. Caiff y drwydded ei chyhoeddi yn amodol ar y rheolau a’r rheoliadau sydd ar waith yn y maes parcio (gwelwch yr arwyddion yn y maes parcio) ac fel y nodir gan Gyngor Sir Ddinbych a gellir ei diddymu gan y Cyngor os bydd y rheolau neu’r rheoliadau yn cael eu torri.

Trwydded newydd

Os yw trwydded bapur wedi mynd ar goll yna gellir cael un newydd am £5. Bydd yn rhaid gwneud cais i’r Cyngor am un newydd.

Os oes gan gwsmer drwydded ‘unrhyw gerbyd’ ni fydd y ffi o £5 am drwydded newydd yn berthnasol – bydd yn rhaid i’r cwsmer dalu’r pris llawn eto.