Trwyddedau meysydd parcio arhosiad hir

Os ydych chi’n defnyddio meysydd parcio arhosiad hir neu ger y traeth yn Sir Ddinbych yn rheolaidd, gallai trwydded barcio arbed arian i chi.

Sut ydw i’n defnyddio’r drwydded barcio hon?

Fe gewch chi ddefnyddio trwydded barcio arhosiad hir yn y meysydd parcio hyn:

Os ydych chi’n dangos eich trwydded barcio’n glir yn eich cerbyd, ni fydd angen i chi brynu tocynnau talu ac arddangos i barcio yn y meysydd parcio hyn.

Sylwch, os gwelwch yn dda, nad yw trwydded barcio arhosiad hir yn golygu bod gennych chi’r hawl i barcio am ddim mewn meysydd parcio arhosiad byr yn Sir Ddinbych.

Sut ydw i’n gwneud cais am drwydded barcio?

Gwneud cais am drwydded barcio

Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn bydd y ffi am eich trwydded barcio arhosiad hir yn is.

Gallwch brynu trwyddedau prisiau gostyngedig i feysydd parcio yn ein Siopau Un Alwad. Gall cwsmeriaid sy’n adnewyddu trwydded pris gostyngedig hefyd ei phrynu drwy ffonio Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706000.

Pan fyddwch chi’n gwneud eich cais cyntaf am drwydded ar gyfradd is, bydd arnom ni angen copi o’ch dogfen cofrestru cerbyd yn ogystal â chopi o un o’r canlynol:

  • trwydded yrru
  • tystysgrif geni (a phrawf o’ch preswyliaeth e.e. bil gwasanaeth gyda’ch cyfeiriad arno)
  • pasbort (a phrawf o’ch preswyliaeth)
  • hawl gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i bensiwn ar ôl ymddeol

Faint mae’n gostio?

Mae cost trwydded barcio arhosiad hir yn dibynnu ar gyfnod y drwydded:

  • 3 mis: £35
  • 6 mis: £65
  • 12 mis: £120
  • 12 mis (bris rhatach): £65

Mae’n costio £5 i adnewyddu trwyddedau wedi eu dwyn neu wedi mynd ar goll. 

Petaech chi’n newid eich cerbyd mae’n rhaid i chi anfon eich trwydded barcio atom ni ac fe wnawn roi un newydd i chi. Ni chodir tâl am hyn.

Prisiau newydd trwyddedau parcio o 2 Ebrill 2024

Bydd pris trwyddedau parcio’n newid o 2 Ebrill 2024. Mae’r prisiau presennol a’r prisiau newydd i’w gweld yn y tabl isod.

Trwydeddau arhosiad hir
Math o drwyddedPris cyfredolPris newydd
3 mis £35 £50
6 mis £65 £80
12 mis £120 £140
Pris gostyngedig £65 £80