Services and information

Mae Sir Ddinbych yn lle gwych i fyw a gweithio. Dysgwch fwy am ein Sir a'n gweledigaeth, ein gwerthoedd a'n hegwyddorion sy'n sail i bopeth a wnawn fel sefydliad. 

Gweithio yng Nghyngor Sir Ddinbych

Dysgwch fwy am weithio i Gyngor Sir Ddinbych.

Y daith recriwtio

Y broses ymgeisio a beth sy'n digwydd yn ystod ac ar ôl eich cyfweliad.

Yr hyn rydym ni'n ei gynnig

Yr hyn yr ydym ni'n ei gynnig fel cyflogwr.


Y prif swyddi gwag  

Peiriannydd - Dylunio ac Adeiladu

Dysgwch fwy am y swydd wag hon.

Goruchwyliwr Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff

Dysgwch fwy am y swydd wag hon.

Gweithiwr Cefnogi Annibyniaeth yn y Cartref

Dysgwch fwy am y swydd wag hon.

Llwybr gyrfa

Dysgwch fwy am ein Llwybrau Gyrfa er mwyn eich helpu i ddatblygu eich gyrfa.

Recriwtio mewn ysgolion

Gwybodaeth am recriwtio mewn ysgolion a swyddi gwag cyfredol.

Gwirfoddoli gyda ni

Gwybodaeth am wirfoddoli.

Ein Gweledigaeth, ein Gwerthoedd a'n Hegwyddorion

Ein Gweledigaeth yw creu diwylliant 'Un Cyngor', gydag arweinyddiaeth gref ac amlwg, er mwyn sicrhau lefelau uchel o wasanaeth cwsmer i'n cymunedau. 

Os ydych chi'n dymuno gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i breswylwyr Sir Ddinbych ac yn chwilio am gyflogwr gwerth chweil sy'n eich gwerthfawrogi, yna dyma'r lle i chi.

Darllenwch fwy am ein Gweledigaeth, ein Gwerthoedd a'n Hegwyddorion.

Cymylau

Hygyrchedd

Yn Sir Ddinbych rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol, lle gall pawb fod y gorau y gallant fod. Dymunwn wneud y broses ymgeisio a recriwtio yn un gadarnhaol i bawb ac rydym yn darparu cefnogaeth ychwanegol i'r rheiny sydd ei hangen. 

Rydym am i'n pobl deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael eu cynnwys, yn ddiogel, yn cael eu cefnogi ac yn cael eu croesawu, fel y gallent gyrraedd eu llawn botensial waeth beth fo'u cefndir. Os oes gennych anabledd ac angen addasiad rhesymol yn ystod y broses recriwtio, rhowch wybod i ni a byddwn yn eich cefnogi.

Dysgwch fwy am Gydraddoldeb ac Amrywiaeth yng Nghyngor Sir Ddinbych.

accessibility

Dysgu a Datblygu

Rydym bob amser yn annog ein gweithwyr i ddatblygu eu sgiliau er mwyn gallu darparu'r gwasanaeth gorau i'n cymunedau a'n preswylwyr. Mae uchelgais gyrfa ein gweithwyr yn bwysig i ni. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd dysgu a datblygu ac yn asesu anghenion datblygu ein gweithwyr yn rheolaidd trwy drafodaethau a chyfarfodydd un i un â’u rheolwyr atebol.

Dysgwch fwy am Ddysgu a Datblygu.

Gliniaduron a llyfrau

Eich lles

Mae hyrwyddo a chefnogi lles gweithwyr yn hynod bwysig i Gyngor Sir Ddinbych. Mae ein polisïau a’n haddewidion ynghylch iechyd meddwl a lles wedi’u sefydlu er mwyn codi ymwybyddiaeth, ac addysgu ein gweithlu i annog sgyrsiau agored a gonest. Rydym yn falch o fod yr Awdurdod Lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru i gyflwyno Polisi Menopos, ac yn bwriadu parhau i ddangos esiampl, gan sicrhau bod lles gweithwyr wrth wraidd popeth a wnawn.

Rydym am i'n gweithwyr wybod lle y gallant gael gafael ar gefnogaeth ar yr adegau pan fyddant ei hangen fwyaf. Mae ein Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Vivup) yn wasanaeth cyfrinachol, diduedd, am ddim, sy’n cynnig cyngor ar unrhyw fater 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Mae gennym hefyd Adran Iechyd Galwedigaethol ar y safle ac rydym yn darparu talebau gofal llygaid.

Darllenwch fwy am ein hymroddiad i iechyd meddwl a lles gweithwyr.

Coed

Glassdoor (gwefan allanol)

Cyngor Sir Ddinbych ar Glassdoor.

LinkedIn (gwefan allanol)

Cyngor Sir Ddinbych ar LinkedIn.

Facebook (gwefan allanol)

Swyddi Cyngor Sir Ddinbych ar Facebook.