Cynllun cyhoeddi

Yn ogystal ag ateb ceisiadau am wybodaeth, mae'n ofynnol arnom ni i gyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol.

Yn ôl y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, rhaid i bob awdurdod lleol gael cynllun cyhoeddi, wedi'i gymeradwyo gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (gwefan allanol), a rhaid cyhoeddi gwybodaeth a gynhwysir yn y cynllun.

Mae’r cynllun yn golygu bod rhai i ni gyhoeddi rhai mathau o wybodaeth fel mater o drefn, megis polisïau a gweithdrefnau, cofnodion cyfarfodydd, adroddiadau blynyddol a gwybodaeth ariannol.

Pwy ydym ni a beth ydym yn ei wneud

Gwybodaeth am ein strwythur,a sut ryfym yn cael ein rheoleiddio. Ein lleoliadau a sut i gysylltu â ni.

Beth ydym yn ei wario a sut

Gwybodaeth am incwm a gwariant, gan gynnwys tendro, caffael a chontractau.

Beth yw ein blaenoriaethau a sut ydym yn perfformio

Ein strategaethau a'n cynlluniau, a gwybodaeth am sut yr adolygir ein perfformiad.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Ein prosesau ar gyfer genwued penderfyniadau, gan gynnwys cyfarfodydd y cyngor ac ymgynghoriadau cyhoeddus.

Ein polisïau a'n gweithdrefnau

Ein polisïau a gweithdrefnau ar gyfer darparu ein gwasanaethau, cyflogi staff, gwasanaeth cwsmer a thrafod gwybodaeth.

Strategaethau, cynlluniau a pholisïau

Rhestrau a chofrestrau

Gwybodaeth a ddelir mewn cofrestrau a ofynnir gan y gyfraith, megis genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil, a'r gofrestr etholiadol.

Y gwasanaethau a gynigwn

Gwybodaeth am y gwasanaethau a gynigwn i breswylwyr, busnesau lleol ac ymwelwyr i Sir Ddinbych.