Diweddariad ar y Bagiau Ailgylchu Cardfwrdd
Rydym yn deall pryderon preswylwyr ynghylch y bagiau glas ar gyfer ailgylchu cardfwrdd, ac rydym yn adolygu'r trefniadau presennol. Bydd adroddiad ar opsiynau ar gyfer cynwysyddion ailgylchu, gan gynnwys y bag glas, yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Medi, a disgwylir penderfyniad gan y Cabinet yn ddiweddarach yn yr hydref.
Yn y cyfamser, parhewch i ddefnyddio bagiau glas sydd yn dal i fod mewn cyflwr da. Os yw eich bag wedi'i ddifrodi, gallwch archebu un newydd drwy wefan y Cyngor. Gall preswylwyr hefyd gyflwyno cardfwrdd mewn bag addas arall o faint tebyg, a bydd ein timau yn ei gasglu. Diolch i chi am barhau i ailgylchu ac am gefnogi ein timau casglu.
Y Cyngor yn Amlinellu'r Camau Nesaf yn dilyn Pryderon am y Bagiau Ailgylchu Glas (Gwefan Llais y Sir)
Casgliadau ailgylchu a gwastraff
Ar eich diwrnod casglu arferol, sicrhewch fod eich cynwysyddion yn y man casglu erbyn 6.30am. Gallwn gasglu eich gwastraff unrhyw amser ar y diwrnod hwn hyd at 5pm, felly gadewch eich cynwysyddion allan tan hynny.
Casgliadau gwastraff a fethwyd
Gofynnwn yn garedig i chi beidio â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd tan ar ôl 5pm gan y bydd rhai criwiau yn parhau i gasglu gwastraff tan yr amser yma. Darganfod mwy am gasgliadau gwastraff a fethwyd.