O fis Mehefin 2024, rydym ni'n cyflwyno newidiadau i'r gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff, yn cynnwys darparu cynwysyddion newydd a chasglu deunydd ailgylchu yn wythnosol.
Bydd pecyn gwybodaeth yn cael ei ddosbarthu gyda'ch biniau newydd o 23 Chwefror 2024. Bydd y pecyn gwybodaeth yn darparu gwybodaeth am eich cynwysyddion newydd, beth sy'n mynd i ble a sut fydd y newidiadau i'r gwasanaeth yn effeithio ar eich cartref.
Bydd ein 'Canllaw Ailgylchu A i Y' yn adlewyrchu'r newidiadau yma o ddydd Llun 3 Mehefin 2024.